Brought to you by
CYNGOR BRO MORGANNWG
Mae’r Barri yn dref sydd â hanes balch, ac mae'n edrych i'r dyfodol ac yn adeiladu enw da i’w hun yn gyflym fel lle dymunol, uchelgeisiol ac arloesol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yng Nghymru.
Fel rhan o'r ymdrechion i adfywio'r dref, mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru — sy'n cefnogi prosiectau cyfalaf mawr i addasu eiddo gwag ar gyfer dibenion gwahanol, gan gynnwys adeiladau pwysig a hanesyddol, a thir yng nghanol trefi ledled Cymru — wedi dyrannu £3.5 miliwn o gyllid i Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer prosiectau a datblygiadau sy'n benodol i'r Barri.
Bydd y buddsoddiad sylweddol yn cefnogi gwaith adfywio yn y Barri i greu canol tref cynaliadwy a dod â manteision economaidd a chymdeithasol hirhoedlog i'r gymuned ehangach.
Dyma dri phrosiect sydd eisoes wedi elwa o’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn y Barri.
Goodsheds
Mae Goodsheds, sydd newydd agor, yn ddatblygiad defnydd cymysg, a adeiladwyd ar hen safle dociau adfeiliedig y Barri.
Yn dilyn £500,000 o fuddsoddiad Trawsnewid Trefi, gwelodd y prosiect arloesol gynwysyddion llongau nad oedd yn cael eu defnyddio ac adeilad rheilffordd Fictoraidd gwag yn cael eu hadnewyddu i greu'r lleoliad cynaliadwy — sydd bellach wedi'i leoli yn yr Ardal Arloesi yng Nglannau'r Barri sy’n ffynnu.
Cynlluniwyd y datblygiad gwerth £9m+ i ategu Stryd Fawr y Barri — mae’n cynnwys busnesau bwyd, diod a manwerthu annibynnol, swyddfeydd modern, campfa awyr agored, llety rhent moethus a hyd yn oed tai cymdeithasol newydd sbon a ddarperir gan Gymdeithas Tai Newydd.
Yn driw i’w leoliad gwreiddiol yn y dociau, rhennir y datblygiad yn dri man unigryw, pob un â'i arlwy ei hun: The Shipyard, The Tracks a The Sidings.
O gludo i joio, siopa a bwyta, mae'r Shipyard wedi'i adeiladu'n gyfan gwbl allan o bum deg pedwar o gynwysyddion llongau wedi’u haddasu — sydd bellach yn gartref i fwy nag ugain o fusnesau amrywiol annibynnol. Wedi'i leoli ar y rheilffordd wreiddiol, mae The Tracks yn cynnwys cyfres o gerbydau cyflym Gatwick wedi'u haddasu ar gyfer masnachwyr crefftus, sinema, a lle i’w logi ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd.
Mae The Sidings (ei enw blaenorol oedd Adeiladau Gwalia), yn defnyddio adeilad rheilffordd o'r 1880au a adnewyddwyd i gartrefu unedau masnachol a fflatiau moethus i’w rhentu. Mae addasu’r adeilad brics coch hwn ar gyfer diben arall wedi cynnal y dreftadaeth ddiwydiannol y mae'r Barri yn enwog amdani ac yn dod ag ef i'r 21ain ganrif ar yr un pryd.
33 Ffordd Holton
Cyn ei fod yn wag ac yn dadfeilio, roedd 33 Ffordd Holton unwaith yn gartref i fanc ac am gyfnod byr ar ôl hynny, salon gwallt lleol.
A’r adeilad heb ei ddefnyddio am dros dair blynedd ac mewn perygl o fod yn ddolur llygad adfeiliedig yng Nghyffordd Stryd Lombard ar un o strydoedd prysuraf y Barri, mae cyllid Trawsnewid Trefi wedi helpu i droi'r adeilad gwag hanesyddol yn lleoliad masnachol a thai defnydd cymysg — sydd â gofod swyddfa ar gyfer busnesau lleol a phedwar fflat dwy ystafell wely (rhent marchnad agored) mewn lleoliad canolog yn y dref.
Mae pob un o'r pedwar fflat yn llawn ers mis Hydref 2020, tra bydd y gofod swyddfa newydd yn gartref i gwmni lloriau annibynnol arbenigol, the Floor Store UK cyn bo hir.
Neuadd Dinam
Yn y cyfamser, yn dilyn buddsoddiad Trawsnewid Trefi gwerth £1.3m drwy gronfa Benthyciad Canol Tref Llywodraeth Cymru, mae hen safle anniben Neuadd Dinam wedi'i drawsnewid yn floc tri llawr o fflatiau fforddiadwy wedi'u moderneiddio. Roedd y tu allan i'r datblygiad newydd yn seiliedig ar wneuthuriad y Neuadd Dinam wreiddiol, a gafodd ei dymchwel ym 1996.
Wedi'i reoli a'i arwain gan Gymdeithas Tai Newydd, mae'r datblygiad adfywio yn cynnwys chwe fflat dwy ystafell wely a thri fflat un ystafell wely — gyda'r prosiect wedi'i gynllunio i fynd i'r afael ag anghenion tai lleol wrth ddarparu bywyd newydd i'r hyn a fyddai fel arall wedi parhau'n ddarn adfeiliedig o dir ar Stryd Merthyr, y Barri.
Dywedodd Prif Weithredwr Newydd, Jason Wroe: "Mae Neuadd Dinam yn dyst i'n gwaith cydweithredol gwych gyda llawer o sefydliadau sy'n rhan o'r prosiect adfywio anhygoel hwn.
"Wrth weld trawsnewidiad gwych hen safle Neuadd Dinam, rydym ni yn Newydd yn falch o gynnig cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel mewn cymuned lle gall pobl gymdeithasu, gweithio a byw.
"Mae'r rhain yn gynhwysion hanfodol mewn unrhyw brosiect adfywio llwyddiannus, sy’n creu cymuned gynaliadwy yng nghanol y Barri am flynyddoedd i ddod."
Edrych ymlaen
Gyda chyllid Trawsnewid Trefi yn parhau i gael ei fuddsoddi ar draws y Barri, mae digon o brosiectau adfywio cyffrous ar y gorwel.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: "Mae'r fenter Trawsnewid Trefi yn rhoi hwb hanfodol i economïau lleol ar draws trefi Cymru, gan gefnogi cymunedau a busnesau i ddatblygu a ffynnu.
"Mae'r prosiectau adfywio yn y Barri hyd yma yn dangos pwysigrwydd canol trefi i'r gymuned leol — gyda phob datblygiad, o dan arweiniad Cyngor Bro Morgannwg, yn darparu mwy o le busnes a chyfleoedd tai i bobl y Barri yn ogystal â lleoedd i gyfarfod a chymdeithasu ag eraill am flynyddoedd i ddod.
"Gyda llawer mwy o ddatblygiadau adfywio mwy cyffrous ar y gorwel ar gyfer y dref hon, rwy'n edrych ymlaen at wylio prosiectau eraill yn llwyddo ac yn dod â hwb cymdeithasol ac economaidd i'r ardal leol yn 2021 a thu hwnt."
Mae Trawsnewid Trefi yn darparu cyllid i adfywio strydoedd mawr Cymru, adeiladau lleol eiconig a chanol trefi a dinasoedd, ac yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen ar gyfer canol trefi yn werth bron £110 miliwn, ac yn adeiladu ar fuddsoddiad rhagamcanol presennol o £800 miliwn mewn dros 50 o drefi ers 2014.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau adfywio presennol a rhai sydd ar y gweill yn y Barri, ewch i bromorgannwg.gov.uk.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article